Pedwarawd ar y Dwyrain Canol

Pedwarawd a gyfansoddir gan ddwy wladwriaeth (Ffederasiwn Rwsia a'r Unol Daleithiau), un sefydliad rhyngwladol (y Cenhedloedd Unedig), ac un sefydliad uwchgenedlaethol (yr Undeb Ewropeaidd) sy'n cyflafareddu'r broses heddwch yn y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd yw'r Pedwarawd ar y Dwyrain Canol. Fe'i sefydlwyd ym Madrid yn 2002 gan José María Aznar, Prif Weinidog Sbaen. Cennad Arbennig y Pedwarawd yw'r cyn-Brif Weinidog Prydeinig Tony Blair.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search